Fe fydd Llywodraeth Prydain yn cynnal adolygiad o ddatganoli’r Alban mewn ymgais i sicrhau ei fod yn “gweithio cystal ag y gallai”.

Yn ôl gweinidog Swyddfa’r Alban, yr Arglwydd Duncan, fe fydd yr adolygiad yn cael ei fwrw i’r dŵr gan y Prif Weinidog Theresa May ar ei hymweliad â’r Alban ddydd Iau (Gorffennaf 4).

“Mae’n ffordd syml a hawdd o wneud yn siŵr bod datganoli yn gweithio cystal ag y gall i fod,” meddai.

Er hyn, mae Prif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon, wedi galw’r symudiad fel “gweithred enbyd” gan Theresa May, sy’n gadael Downing Street ymhen llai na thair wythnos.

Yr Arglwydd Dunlop, cyn gweinidog Swyddfa’r Alban, fydd yn cynnal yr adolygiad gan edrych ar sut mae Whitehall yn ymwneud â datganoli 20 mlynedd ar ôl sefydlu Senedd yr Alban.

“Mae hwn yn weithred enbyd gan Brif Weinidog sydd wedi dangos dim parch at Senedd yr Alban yn ystod ei chyfnod yn y swydd,” meddai Nicola Sturgeon.

“Mae’n fater i bobl yr Alban – nid i Aelod Seneddol Torïaidd – ystyried a phenderfynu pa ddyfodol yr ydym ei eisiau i’n Senedd a’n gwlad.