Mae dau o bobol wedi cael eu saethu y tu allan i brif dderbynfa maes awyr rhyngwladol Lahore, prifddinas Pacistan.

Nid oedd y ddau saethwr wedi llwyddo i fynd i mewn i ardal ddiogelwch y maes awyr, ond mae’r digwyddiad wedi peri pryder mawr yn yr ardal. Mae heddlu a lluoedd diogelwch yn drwch yno bellach.

Cafodd y ddau unigolyn eu saethu ar ôl cyrraedd yn ôl o bererindod Fwslimaidd yn Sawdi Arabia.

Cafodd yr ymosodwyr eu dal yn sydyn, yn ôl yr awdurdodau, a’r gred ydi mai ffrae bersonol oedd wrth wraidd yr achos.

Mae’r heddlu yn ymchwilio i sut y llwyddodd y ddau saethwr i gael eu hunain ar dir y maes awyr gydag arfau.