Mae saith o gyrff wedi’u hachub gan hofrenyddion ym mynydd yr Himalaya.

Y gred ydi eu bod yn aelodau o dîm rhyngwladol o ddringwyr sydd wedi bod ar goll yng ngogledd India.

Mae’r cyrff wedi’u cludo i Pithoragarh yn nhalaith Uttarakhand gan un o hofrenyddion llu awyr India.

Dyw’r dringwyr ddim wedi cael eu hadnabod yn ffurfiol eto, gan fod anafiadau i’w hwynebau yn ei gwneud hi’n anodd dweud yn iawn pwy ydyn nhw. Hefyd, mae eu dogfennau a’u papurau personol ar goll.

Mae wythfed dringwr yn dal i fod ar goll.