Mae argae wedi gorlifo yng ngorllewin India, gan achosi llifogydd mawr mewn dwsin o bentrefi a lladd saith o bobol.

Mae 17 o bobol yn dal yn goll yn dilyn cyfnod o law trwm yn Mwmbai a arweiniodd at y digwyddiad yn argae Tiware yn rhanbarth Ratnagiri yn nhalaith Maharashtra.

Mae timau achub yn cadarnhau eu bod wedi dod o hyd i saith o gyrff, a’u bod yn dal i chwilio am bobol sydd ar goll.

Mae’r glaw trwm diweddar wedi arwain at beth bynnag 34 o farwolaethau ers nos Lun (Gorffennaf 1) wrth i waliau ddymchwel ac i bobol fynd i drafferth yn y dyfroedd.

Mae dwsinau o bobol wedi cael eu hanafu hefyd.