Mae’r heddlu’n ymchwilio i achosion o lofruddiaeth yn dilyn dau ymosodiad â chyllyll o fewn milltiroedd i’w gilydd ar yr un diwrnod.

Cafodd yr heddlu eu galw i ardal Newham yn nwyrain Llundain am 11.07 neithiwr (nos Sadwrn, Mehefin 30), yn dilyn adroddiadau bod dyn wedi cael ei drywanu.

Fe fu farw yn y fan a’r lle ac mae ei deulu wedi cael gwybod.

Bydd archwiliad post-mortem yn cael ei gynnal, yn ôl Heddlu Scotland Yard, sy’n ymchwilio i’w lofruddiaeth.

Dynes feichiog yn Croydon

Mewn ymosodiad arall ychydig filltiroedd i ffwrdd yn Croydon, cafodd dynes feichiog ei thrywanu i farwolaeth, a bu’n rhaid geni ei babi, sydd mewn cyflwr difrifol.

Cafodd yr heddlu eu galw i eiddo am oddeutu 3.30 fore heddiw yn dilyn adroddiadau bod gan y ddynes ataliad ar ei chalon.

Ei henw yw Kelly Mary Fauvrelle, yn ôl yr heddlu, sydd wedi cadarnhau bod dyn 29 oed hefyd wedi cael ei arestio mewn perthynas â’i marwolaeth.

Roedd dyn 37 oed eisoes wedi’i arestio ar amheuaeth o’i llofruddio, ac mae’n cael ei holi yn y ddalfa.

Mae’r heddlu’n apelio am wybodaeth.