Mae arlywydd yr Unol Daleithiau a Llywydd Tsieina Xi Jinping wedi cyfarfod i drafod masnach.

Mae’r ddwy wlad wedi bod yn anghydweld â’i gilydd ynglŷn â masnachu eu cynnyrch technolegol.

Bu i’r ddau drafod yn nghyfarfod y G20 yn Osaka, Siapan heddiw (Mehefin 29) gan gytuno i cael cadoediad yn y gwrthdaro masnach rhyngddyn nhw.

Dywed Donald Trump na fyddai yn bwrw ymlaen “ar hyn o bryd” â chynlluniau i osod tariffau ar 300 biliwn o ddoleri yr UD (£234bn) – ar ben y 250 biliwn o ddoleri UD (£194bn) y mae eisoes wedi ei dargedu.

Golyga’r penderfyniad y bydd y ddwy ochor yn ail-gynnal trafodaethau a ddaeth i ben y mis diwethaf.