Bu farw o leiaf 16 o bobol wedi i wal 15 troedfedd (4.5m) gwympo ar ben gweithwyr a’u teuluoedd yn byw mewn clwstwr o gytiau a thoeau tun yng ngorllewin India.

Digwyddodd y drychineb yn ninas Pune, yn nhalaith Maharashtra, meddai swyddog tân.

Aed â thri o bobol i’r ysbyty ar ôl iddyn nhw gael eu tynnu allan o’r rwbel yn fyw.

Disgynodd y wal ar ôl i’r ddinas ddioddef  2.8 modfedd (7.3cm) o law ddydd Gwener – un o’r glawiadau uchaf ers deng mlynedd.

Roedd y gweithwyr a’u teuluoedd yn cysgu pan ddisgynodd y wal.

Roedd nifer y dioddefwyr yn hanu o dalaith dwyrain Bihar a gogledd talaith Uttar Pradesh.