Mar dyn wedi cael ei arestio ar amheuaeth o ddynladdiad yn dilyn marwolaeth dyn 47 oed yn Llanelli.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i Coleshill Terrace, Llanelli yn dilyn digwyddiad yn oriau mân fore heddiw (dydd Sadwrn, Mehefin 29).

Cadarnhaodd yr heddlu bod y dyn 47 oed wedi cael ei ddarganfod ag anafiadau yng nghanol y stryd, ond bu farw yn yr ysbyty yn ddiweddarach.

Mae dyn arall wedi’i arestio ar amheuaeth o ddynladdiad ac mae’n cael ei gadw yn y ddalfa.