Mae Brenhines Lloegr wedi canmol Senedd “ryfeddol” yr Alban wrth iddi gymryd rhan mewn digwyddiad i ddathlu 20 mlynedd ers ei sefydlu.

Ugain mlynedd ers iddi agor y cynulliad etholedig cyntaf yn Holyrood, Caeredin, dywedodd y Frenhines Elizabeth ei fod dal “ynghanol y bywyd cyhoeddus Albanaidd.”

Dywedodd Prif Weinidog yr Alban Nicola Sturgeon sut fod deddfwriaeth wedi ei basio yn Holyrood “wedi gwneud yr Alban yn well lle”.

“Mae’r senedd yma wedi sefydlu ei hun ynghanol bywyd cyhoeddus y genedl.

“Ni, nawr, ydi’r sefydliad democrataidd y mae pobol yn edrych tuag ato, i adewyrchu eu blaenoriaethau, eu gwerthoedd a’u breuddwydion.”

Roedd y Tywysog Charles yn yr Alban hefyd gyda’i fam.