Cofnodwyd y tymheredd uchaf hyd yma eleni, wrth iddi barhau i gynhesu.
Dywed y Swyddfa Dywydd fod darlleniadau o 33C (91.4F) wedi eu cofnodi yn Heathrow a llefydd eraill yng ngorllewin Llundain y prynhawn yma gyda disgwyl i’r tymheredd cyn uched â 34C (93.2F) yn hwyrach yn y dydd.
Byddai hynny yn disgyn ychydig yn is na’r record a osodwyd ym mis Mehefin 1976 sef 35.6C (96F).
Er fod y tymheredd wedi gostwng dipyn yng Nghymru ac yn teimlo’n llawer lai cynnes, disgwylir iddi fod yn boeth yn ne Lloegr gan fwyaf.
Dywedodd yr archfarchnadoedd fod eu gwerthiant o fwydydd barbaciw wedi cynnyddu’n arw.
Cafwyd problemau oherwydd y tywydd braf ar y ffyrdd yn enwedig ar yr A55 ar hyd y Gogledd. Bu’n rhaid cau’r M5 yng Ngwlad yr Haf oherwydd problemau gyda cheblau uwchben.