Desmond Cecil Parkinson ydi dewis Plaid Brexit i fod yn ymgeisydd yn isetholiad Brycheiniog a Sir Faesyfed.

Cafodd ymgyrch Des Parkinson, sy’n hannu o Aberhonddu, ei lansio yng Nghrucywel heddiw (dydd Sadwrn, Mehefin 29).

“Mae’r Ceidwadwyr wedi gadael pobl Brycheiniog a Sir Faesyfed i lawr, a pleidleisio ar gyfer Plaid Brexit yw’r unig ffordd i sicrhau bod Brexit yn cael ei gyflawni,” meddai.

Mae’n gyn-blismon gyda Heddlu Dyfed Powys.

Mae’r is-etholiad yn cael ei gynnal wedi i dros 19% o’r etholaeth arwyddo deiseb i ddiswyddo’r Aelod Seneddol Ceidwadol Chris Davies.

Ond mae aelodau’r Blaid Geidwadol yn yr etholaeth wedi dewis Chris Davies i fod yn ymgeisydd ar eu rhan unwaith yn rhagor.

Jane Dodds fydd yn sefyll ar ran y Democratiaid Rhyddfrydol, a Tom Davies dros y Blaid Lafur. Nid yw Plaid Cymru wedi dewis ymgeisydd eto.

Bydd yr is-etholiad yn cael ei gynnal ar Awst 1.