Mae’r fam Brydeinig-Iranaidd Nazanin Zaghari-Ratcliffe wedi dod a’i hympryd i ben wedi 15 diwrnod mewn carchar yn Iran.

Mae ei gŵr Richard, sydd hefyd wedi dod a’i ympryd yntau i ben y tu allan i Lysgenhadaeth Iran yn Llundain.

Dywedodd wrth y rhaglen radio Today fod ei wraig wedi bwyta ychydig o uwd gyda afal a banana.

Meddai: “Dwi’n falch oherwydd baswn i ddim eisiau iddi barhau i wthio llawer yn hirach.”

Cafodd wybod am ei phenderfynid mewn sgwrs ar y ffon o garchar Evin heddiw.

Dywedodd cyfarwyddwr Amnest Rhyngwladol y DU, Kate Allen: “Mae’r ympryd drosodd, ond nid yw anghyfiawder dwfn yr achos yma ddim.

“Mae Nazanin dal yn garcharor cydwybodol, yn dal wedi ei charcharu yn annheg wedi achos oedd yn ‘sham’, ac yn dal i ddioddef y boen o fod wedi ei gwahanu oddi wrth ei theulu a’i chartref.

“Dylai’r awdurdodau Iranaidd o’r diwedd wneud y peth iawn – rhyddhau Nazanin a chaniatau iddi ddychwelyd gartref i’r DG.”