Daeth rhybudd gan Archdderwydd newydd Cymru fod “bygythiad y bwystfil sydd am ddileu’n cof ni yn fyw ac yn afiach o hyd.”

Cafodd Myrddin ap Dafydd ei orseddu’n Archdderwydd Cymru yn seremoni cyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol 2020 yn nhref Aberteifi heddiw (Mehefin 29).

Bydd y brifwyl yn dod i Dregaron ym mis Awst y flwyddyn nesaf.

Yn ei anerchiad cyntaf yn rhinwedd ei swydd newydd, cyfeiriodd Myrddin ap Dafydd at y dywediad “mae pob ffordd yn mynd i Dregaron”, gan ei gymharu â’r fersiwn gwreiddiol sy’n nodi bod “pob ffordd yn mynd i Lundain”.

“Llundain yr atyniadau mawr, y theatrau a’r amgueddfeydd – mae VisitBritain yn gwneud yn saff fod y byd yn gwybod am y rhain,” meddai.

“Ond dim ond 2% o ymwelwyr tramor Prydain ddaw i Gymru. Faint o’r rheiny tybed gaiff brofi croeso cynnes Ceredigion?

“Mi gaewyd 14 o ganolfannau croeso yng Nghymru ddeunaw mis yn ôl. Dim pres. Na, dydi pŵer Llundain na phres Llundain ddim yno er ein mwyn ni.”

Pwysigrwydd ‘cofio’

Yn ogystal â’r gair ‘croeso’, fe bwysleisiodd yr Archdderwydd newydd fod ‘cofio’ yn air pwysig hefyd.

“Mae wal Cofio Tryweryn yma yng Ngheredigion wedi gwneud dau beth inni yn ddiweddar – mae wedi dangos fod bygythiad y bwystfil sydd am ddileu’n cof ni yn fyw ac yn afiach o hyd,” meddai.

“Mae hefyd wedi dangos fod gennon ni bobol ifanc y gallwn ni ddibynnu arnyn nhw i ail-godi waliau ac ail-baentio’r geiriau.

“Maen nhw’n gwybod be ydi gwerth y cof, ac yn gwybod bod yn rhaid i’r cof ysgogi gweithredoedd. Rhaid i ni wybod ein hanes a rhaid i ni hefyd – â’n dwylo ein hunain – lunio ein dyfodol.

“Mae’r cof yn ein harwain at y cyfrifoldeb hwnnw.”

“Mae pŵer arall ar gerdded”

Fe orffennodd ei anerchiad ar nodyn gobeithiol, wrth iddo weld Cymru yn magu hyder newydd mewn oes lle mae’n “hawdd torri calon”.

“Anodd disgwyl synnwyr cyffredin, tegwch na pharch na hyd yn oed ymddygiad cwrtais at ein diwylliant ni, at ein pobol ni ac at ein gwlad ni,” meddai.

“Rydan ni’n byw dan fawd Prydain anghyfartal. Mae’r Normaniaid mewn grym o hyd.

“Ond mae pŵer arall ar gerdded ar hyd ffyrdd Cymru’r dyddiau hyn. Mae pobol wedi cael y nerth i weld nad ffordd Llundain ydi’n ffordd ni.

“A dyma’r nerth, dw i’n hyderus o hyn, fydd yn sicrhau y bydd pob ffordd maes o law yn mynd i Dregaron, ac i Lanrwst, ac i’r Bala, Pwllheli, Llandeilo, Pontypridd a phob tref yng Nghymru. Nid am wythnos, ond am byth.

“Gyda hynny yn ein calonnau, gadewch i ni fynd yn ein blaenau yn obeithiol a llawen am Dregaron y flwyddyn nesaf.”