Does dim modd ailgylchu bron i hanner y deunydd pacio sy’n cael eu defnyddio gan brif archfarchnadoedd gwledydd Prydain.

Dyna un o gasgliadau grŵp Which?, wedi iddyn nhw ymchwilio i ddeunydd pacio Aldi, Asda, Co-op, Iceland, Lidl, M&S, Morrisons, Ocado, Sainsbury’s, Tesco a Waitrose.

Mae’r grŵp wedi darganfod nad oes modd ailgylchu 52% o’r deunydd pacio sy’n cael ei ddefnyddio gan yr archfarchnadoedd hyn.

Galw am wneud “mwy”

“Mae ein hymchwil yn dangos y gallai archfarchnadoedd a gwneuthurwyr wneud llawer yn fwy i waredu plastigau y defnyddir unwaith,” meddai Natalie Hitchins o Which?

“Mi allan nhw hefyd drio gwneud yn siŵr nad ydyn nhw’n defnyddio cymaint o ddeunydd pacio, a bod modd ailgylchu’r deunydd hwnnw.”

Yr ystadegau

  • Morrisons: Does dim modd ailgylchu 61% o’u deunydd pacio
  • Co-op: 58%
  • Tesco: 40%

Waitrose: 40%