Fe fydd busnesau o Gymru sy’n rhan o’r gadwyn gyflenwi’r diwydiant niwclear, yn manteisio ar gytundeb gyda busnesau tebyg yn Sbaen, meddai Llywodraeth Cymru.
O ganlyniad i lofnodi Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth gyda’r wlad fe fydd y busnesau yng Nghymru yn gallu elwa o “gontractau mawr” yn y diwydiant.
Daw hyn yn dilyn taith Fforwm Niwclear Cymru, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, i ymweld â Santander yn Sbaen i gyfarfod â chynrychiolwyr Clwstwr Diwydiant Niwclear Cantabrian.
Mae disgwyl i fusnesau o Gymru ennill cytundebau sylweddol ar ben y cyfle i gydweithio gyda chwmnïau Sbaen.
“Fel rhan o grŵp mwy o faint, mae ganddynt lawer mwy o gyfleoedd i elwa ar y contractau hyn,” meddai Gweinidog yr Economi, Ken Skates.
“Mae hyn yn golygu ein bod yn gallu cadw arbenigedd yn y gadwyn gyflenwi niwclear yng Nghymru, a’r swyddi medrus iawn sy’n rhan ohoni.
“Rwy’n falch bod Llywodraeth Cymru wedi gallu cefnogi’r prosiect ar y cyd hwn drwy Gronfa Cydnerthedd yr Undeb Ewropeaidd.”
Trwy’r cytundeb bydd cyfleoedd i fusnesau yng Nghymru gefnogi’r gwasanaeth a chyflenwi prosiect atomfa niwclear Hinkley Point C a phrosiectau eraill ledled gwledydd Prydain.
Ymhlith y cwmnïau o Gymru a gymerodd ran yn yr ymweliad â Cantabria yn Santander oedd Acorn Recruitment, Huntingdon Fusion Techniques, Teddington Engineered Solutions, C&P Engineering, Roberts & Prowse a Site Heat Treatment Services.