Mae Cymru yn cael £1.8m gan yr Undeb Ewropeaidd i’w wario ar ddatblygu gweithlu’r diwydiannu creadigol.
Caiff yr arian ei wario ar raglen o’r enw ‘Cynhyrchu Cyfryngau Uwch’ fydd yn cael ei redeg gan Brifysgol Aberystwyth.
Bwriad y rhaglen yw ceisio sicrhau mwy o arloesedd a chynhyrchiant drwy weithio gyda gweithwyr proffesiynol yn y sector, gan gynnwys graddedigion newydd.
Mae’r diwydiannau creadigol yn cynnwys ffilm a theledu, dylunio cynhyrchion, ffasiwn, cerddoriaeth a’r celfyddydau perfformio.
Bydd 155 o bobol yn cael eu hyfforddi i ddefnyddio technolegau newydd ym maes cynhyrchu cyfryngau tros gyfnod o bedair blynedd, gan gynnwys 100 ar lefel gradd Meistr neu Ddoethuriaeth.
“Werth bron i £1bn”
“Mae economi’r diwydiannau creadigol werth bron i £1 biliwn i Gymru, a dyma un o’r sectorau sy’n tyfu cyflymaf yng ngwledydd Prydain,” meddai’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog Brexit, Jeremy Miles.
“Bydd y buddsoddiad hwn yn sicrhau bod gan fusnesau Cymru’r sgiliau a’r arbenigedd i dyfu mewn diwydiant byd-eang sy’n profi newidiadau technolegol mawr
“Rwy’n hynod o falch hefyd y bydd mwy na 150 o bobl yn y sector hwn yng Nghymru yn gallu datblygu eu gyrfa ymhellach a’u potensial i ennill mwy o gyflog o ganlyniad i’r rhaglen.”
Fel rhan o’r rhaglen bydd ta 50 o gyflogwyr yn Ne, Gorllewin, a Gogledd-orllewin Cymru yn manteisio.
Elwa o Ewrop
Yn ôl Jeremy Miles mae’r buddsoddiad yn dangos faint yn union mae Cymru yn elwa ar gyllid yr Undeb Ewropeaidd.
“Mae’n parhau i fod yn hanfodol wrth foderneiddio ein heconomi a sbarduno cynnydd go iawn ym maes ymchwil a datblygu, gwyddoniaeth, seilwaith a sgiliau,” meddai/
“Mae mentrau fel hyn yn hollbwysig wrth gyflawni uchelgeisiau Cynllun Cyflogadwyedd Cymru, sy’n ceisio cefnogi pobl i mewn i waith heddiw gan baratoi hefyd ar gyfer heriau uniongyrchol a heriau hirdymor y dyfodol.”
Dros y degawd diwethaf, mae arian yr Undeb Ewropeaidd wedi creu mwy na 48,000 o swyddi ac 13,000 o fusnesau newydd, gan helpu 86,000 o bobl nôl i fyd gwaith yng Nghymru.