Mae dau ddyn yn yr ysbyty yn dilyn damwain rhwng car a thractor ar ffordd yr A40 yn Sir Gaerfyrddin yn oriau mân fore heddiw (dydd Gwener, Mehefin 21).

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw toc wedi hanner nos a bu’n rhaid cau’r ffordd ar y ddwy ochr rhwng Sanclêr a Chaerfyrddin.

Cafodd gyrrwr y car a’i gyd-deithiwr eu cludo i’r ysbyty, lle mae un mewn cyflwr difrifol a’r llall mewn cyflwr sefydlog.

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth ynglŷn â’r digwyddiad i gysylltu â nhw ar y rhif, 101.