Mae cyn-filwr wedi ei gael yn euog o ladd cantores a gyrhaeddodd rownd derfynol un o gyfresi Britain’s Got Talent.
Roedd Desmond Sylva, 41, wedi trywanu ei gariad, Simonne Kerr, 31 – aelod o’r côr B Positive – fwy na 70 o weithiau yn ei gartref yn ardal Clapham, de Llundain, ar Awst 15 y llynedd.
Roedd y gŵr, a wasanaethodd yn Cosofo ac Irac, wedi cyfaddef cyflawni dynladdiad, ond yn gwadu bod y weithred yn achos o lofruddiaeth, gan ddweud ei fod yn dioddef o iselder ar y pryd.
Ond dywedodd llefarydd ar ran yr erlynydd fod yr achos yn un sy’n “llawn angen rhywiol, trais ffiaidd a chelwydd.”
“Roedd [Desmond Sylva] eisiau ailddechrau perthynas rywiol gyda Simonne Kerr,” meddai Oliver Glasgow QC. “Pan na dderbyniodd yr hyn roedd e ei eisiau, doedd e ddim yn gallu rheoli ei ddicter ac fe ffrwydrodd.”
Mae disgwyl i Desmond Sylva gael ei ddedfrydu ar Fehefin 28.