Roedd y ddiweddar Heulwen Hâf yn berson a oedd yn “llawn disgleirdeb”, meddai’r gyflwynwraig a’r gantores, Shân Cothi.
Yn ogystal â chyfrannu’n gyson i raglen Bore Cothi ar BBC Radio Cymru, bu Heulwen Hâf hefyd yn cydweithio â Shân Cothi ar nifer o brosiectau elusennol, yn enwedig wrth godi arian ar gyfer Canolfan Ganser Felindre.
“Pan oedd Heulwen Hâf yn cerdded i mewn i’r stafell, roeddech chi’n gwybod eich bod chi ym mhresenoldeb rhywun llawn disgleirdeb,” meddai Shân Cothi wrth golwg360.
“Roedd yna harddwch ac ysbryd arbennig yn perthyn iddi hi. Roedd hi’n dod â llonyddwch hefyd, yn enwedig gan ei bod hi’n synhwyro fy mod i’n llawn egni a llawn adrenalin.
“Roedd yr effaith roedd hi’n ei chael ar ddyn yn anhygoel… Dyna ichi lady os buodd un erioed.”
Bydd noson i gofio Heulwen Hâf – ‘Hirddydd Heulwen Hâf’ – yn cael ei chynnal nos Wener yma (Mehefin 21) yng Ngwesty Dewi Sant, Caerdydd.