Cafodd chwaraewr rygbi tîm Lloegr, Manu Tuilagi, ei holi gan yr heddlu yn Auckland, Seland Newydd ar ôl iddo neidio oddiar long fferi oedd ar fin angori.

Roedd Tuilagi, 20, wedi nofio at bier cyfagos lle roedd yr heddlu yn aros amdano a chafodd ei holi yn ngorsaf yr heddlu.

Cafodd Tuilagi rybudd am ymddygiad afreolus cyn cael ei ryddhau. Dywedodd rheolwyr tîm Lloegr eu bod yn teimlo “embaras” yn dilyn y digwyddiad.

Mae’n debyg bod Tuilagi yn dychwelyd o daith i Ynys Waiheke gyda gweddill tîm Lloegr pan neidiodd o’r llong.

Roedd Tuilagi wedi gwneud argraff yn ystod y gem yn erbyn Ffrainc ddydd Sadwrn yng Nghwpan Rygbi’r Byd, er iddyn nhw golli o 19 i 12.

Mae disgwyl i aelodau o dîm Lloegr hedfan yn ôl adre o Seland Newydd yn yr oriau nesaf.