Andy Morrel
Wrecsam 2 – 0 Hayes a Yeading

Mae mis mêl Andy Morrel fel chwaraewr reolwr Wrecsam yn parhau wedi buddugoliaeth dda o 2-0 oddi cartref yn erbyn Hayes a Yeading.

Dyma oedd ail fuddugoliaeth oddi cartref y Dreigiau mewn wythnos yn dilyn y canlyniad gwych yn Gateshead nos Fawrth. Dim ond un newid o’r gêm honno a wnaeth Morrel gyda Justin Tolley yn dechrau yn lle Jay Harris.

Di sgôr oedd hi ar yr egwyl yn Stadiwm Kingfield ond newidiodd y gêm mewn tri munud ffrwythlon wedi awr o chwarae – 59 munud oedd ar y cloc pan roddodd Nathaniel Knight-Percival yr ymwelwyr ar y blaen. Gôl ddigon blêr oedd hi gydag amddiffyn Hayes a Yeading yn methu a delio gyda chic gornel Tolley i’r postyn pellaf.

Funud cyn hynny roedd Morrel wedi eilyddio’r blaenwr, Danny Wright ac wedi dod a Mathias Pogba i’r cae a chreodd yr eilydd argraff yn syth wrth sgorio ail Wrecsam wedi 62 munud. Camgymeriad achosodd y gôl honno wrth i amddiffynnwr Hayes a Yeading, Tom Cadmore geisio pasio’r bêl yn ôl i’w golwr, Steve Arnold. Gwnaeth smonach o’r bas ac roedd Pogba yn y fan a’r lle i fanteisio.

Cafodd Tolley ac Adrian Cieslewicz gyfleoedd i ychwanegu at y fantais ond roedd y ddwy gôl yn hen ddigon i sicrhau’r tri phwynt i Wrecsam, tri phwynt sydd yn ddigon i godi’r tîm o Gymru yn ôl i frig cyngres y Blue Square.