Cafodd doniau amlycaf y byd tenis yng Nghymru ar, ac oddi ar, y cwrt eu cydnabod yn seremoni wobrwyo flynyddol Tenis Cymru.

Cyhoeddwyd yr enillwyr yn ystod noson arbennig o ddathlu a gynhaliwyd yn Stadiwm Dinas Caerdydd  nos Wener, 7 Hydref.

“Bu’n flwyddyn hynod i’r byd tenis yng Nghymru,”  meddai Prif Weithredwr Tenis Cymru, Peter Drew.  “Mae’r enillwyr yn unigolion a sefydliadau gwirioneddol eithriadol, sy’n haeddu cael eu llongyfarch.

“Hoffwn hefyd dalu teyrnged i holl arwyr di-glod tenis Cymru, fodd bynnag – yn arbennig y gwirfoddolwyr sy’n chwarae rôl mor hanfodol yng nghynnydd a llwyddiant y gem yng Nghymru.”

Yr enillwyr:

Gwirfoddolwr y Flwyddyn: Collette Richards – CT Abertawe

Collette oedd yr ysbrydoliaeth tu ôl i ail-agor Canolfan Tenis Abertawe.  Ffurfiodd Tennis Swansea 365, sef cymdeithas o wirfoddolwyr, a lluniodd gynllun busnes er mwyn cymryd meddiant o brydles canolfan Abertawe oedd ar fin cau.  Dan arweiniad Collette, cafodd TS365 gefnogaeth yr LTA, Tenis Cymru a’r Sefydliad Tenis.  Yn dilyn ymgyrch hir, trosglwyddwyd yr allweddi i Collette ar 17 Mehefin ac ail-agorodd y ganolfan y diwrnod nesa.  Mae’n parhau i weithio’n ddiflino ar geisiadau am grantiau ariannol, recriwtio staff, gwaith derbynfa a chyfarfodydd wythnosol y bwrdd.

Hyfforddwr Perfformiad y Flwyddyn:  Ellen Jones – UWIC (Academi XL)

Mae Ellen yn rhedeg rhaglen wych yn UWIC.  Eleni, cyrhaeddodd tri o’i chwaraewyr gorau y gystadleuaeth Canfod Talent genedlaethol yn Roehampton.  Y tri oedd James Story, Joe White ac Alex Hamer, gyda James hefyd yn cael ei ddewis i gynrychioli Prydain Fawr yn y tîm Dan 10 a wynebodd Gwlad Belg.  Dewiswyd y tri yma hefyd i fod ymhlith yr 16 chwaraewr gorau yn y wlad i chwarae ym Mhencampwriaethau Cenedlaethol yr Haf.  Mae gwaith caled a thrylwyr Ellen wedi creu amgylchedd perfformio cryf yn UWIC ac mae ei gwaith o ran canfod talent yn golygu y bydd ‘na ddigon o chwaraewyr da’n dod o’r ganolfan yn y dyfodol.

Hyfforddwr Datblygiad y Flwyddyn:  Brian Lee – Llechryd

Mae Brian wedi gweithio yn ardaloedd Gogledd Penfro a De Ceredigion ers deugain mlynedd bellach, ac yn fwy diweddar bu’n un o’r rhai fu’n gyfrifol am greu Academi Ceredigion ar gyfer y grŵp oedran Dan 12, Dan 14 a Dan 16.  Mae wedi gweithio’n ddiflino yn Llechryd, ei glwb ei hun, dros y naw mlynedd diwethaf, ac mae ganddo griw o chwaraewyr 12-14 oed cryf iawn, sy’n cael mynediad i Academi Tenis Abertawe, diolch i hyfforddiant Brian.  Mae Brian wedi cyfrannu llawer i’r gem yn yr ardal dros y deugain mlynedd diwethaf, trwy hyfforddi mewn clybiau, gweithio mewn ysgolion, mynychu cystadlaethau, a rhoi mwy na’r disgwyl yn gyffredinol.

Clwb/Canolfan y Flwyddyn:  CTL Yr Wyddgrug

Mae’r Wyddgrug yn rhedeg eu rhaglen nodedig, o gyfleuster pedwar cwrt digon cyffredin sy’n berchen i’r Cyngor, ac ysgol uwchradd leol.  Maent yn rhedeg 10 tîm Aegon, tri thîm Gogledd Cymru, pedwar tîm cynghrair Swydd Gaer a dau dîm Gaeaf lleol.  Mae ganddynt gynrychiolaeth ar lefel sirol, gydag 19 o chwaraewyr o bob grŵp oedran, a gallant ymfalchio yn y ffaith fod ganddyn nhw 150 o chwaraewyr iau sy’n cystadlu’n rheolaidd.  Mae’r rhaglen, sy’n cael ei rhedeg gan y Prif Hyfforddwr, Vicki Broadbent, yn wych, ac yn darparu ar gyfer yr holl chwaraewyr.  Mae’r clwb hefyd wedi llwyddo i gael cymorth ariannol gan Tenis Cymru a’r LTA i uwchraddio’u cyfleusterau, yn dilyn ymweliad gan brif weithredwr yr LTA, Roger Draper.

Tîm y Flwyddyn: Tîm Merched Dan 12 David Lloyd, Caerdydd

Enillodd y tîm, oedd yn cynnwys Alex Oelman, Rebekah O’Loughlin, Olivia Chivers, Phoebe Cuthbertson-Smith a Grace Lim, gystadleuaeth Prif Adran Canolbarth Lloegr, gan ennill lle yn y Rowndiau Terfynol Cenedlaethol yn Roehampton, oedd yn golygu bod y tîm ymhlith y pedwar uchaf ym Mhrydain Fawr eleni.  Y nhw oedd yr unig dîm o Gymru yn y rowndiau terfynol, a gweithiodd y merched yn galed iawn i drechu canolfannau perfformiad uchel adnabyddus Loughborough a Nottingham, yn ogystal â Phrifysgol Warwick.

Chwaraewr y Flwyddyn:  Evan Hoyt (Llanelli)

Dim ond yr wythnos diwethaf, roedd Evan yn aelod o dîm Prydain ym Mhencampwriaeth Iau Cwpan Davis, a enillodd Rowndiau Terfynol y Byd ym

Mecsico.   Dyna’r tro cynta’ i Brydain ennill y gystadleuaeth hon.

Enillodd Evan pob un o’i ornestau, gan gynnwys gornest galed yn erbyn ail ddetholyn Ffrainc yn y rownd gynderfynol.  Eleni hefyd, chwaraeodd Evan yn Wimbledon am y tro cynta’, gan ennill ei ornest rownd gyntaf, a chael y cyfle i fwrw’r bel gyda Rafa Nadal yn ystod y bencampwriaeth.  Erbyn hyn mae yn safle 150 (ers 26 Medi) yn rhengoedd yr ITF, ac eleni hefyd mae wedi cipio teitlau ym Malaysia a Norwy, yn ogystal â bod yn aelod o dîm Prydain Fawr a enillodd Cwpan Haf Ewrop.

Awdurdod Lleol y Flwyddyn: Powys (De a Gogledd gyda’i gilydd)

Mae De Powys wedi creu clwb newydd yn Aberhonddu, sydd hefyd wedi ennill statws “Beacon” o ganlyniad i’r gwaith mae’r clwb yn ei wneud gydag ardaloedd cyfagos, trwy’r hyfforddwr Chris Hill.

Mae’r adran Datblygu Chwaraeon, dan arweiniad Matthew James, wedi gweithio’n agos gyda Chris i hyrwyddo tenis yn Ne Powys.  Hefyd, llwyfannodd yr adran Bencampwriaeth gyntaf Brycheiniog a Maesyfed ar gyfer chwaraewyr mini, chwaraewyr iau ac oedolion, a llwyddwyd i ddenu 40 o gystadleuwyr i’r digwyddiad cyntaf hwn.  Mae Gogledd Powys wedi cynyddu nifer y clybiau cofrestredig o dri i saith yn 2011.  Mae nifer y chwaraewyr iau o’r ardal sy’n cystadlu’n rheolaidd hefyd wedi codi o dim ond un, i 44.  Gwelwyd cynnydd hefyd yn nifer yr ysgolion a’r timau a fynychodd gystadleuaeth Aegon eleni.  Dan arweiniad Katie Hamer yn uned ddatblygu Gogledd Powys, maent hefyd wedi llwyddo i gynnig hyfforddiant i athrawon cynradd ac uwchradd, yn ogystal â rhedeg cwrs arweinwyr yng Ngholeg Powys.

Cyfraniad Aruthrol i’r Byd Tenis yng Nghymru:  Mary Hunter

(Abertawe)

Mae Mary wedi rhoi ei bywyd cyfan i’r gem.  Bu’n rhedeg cystadleuaeth fawreddog Bae Langland ers 20 mlynedd bellach, ac mae wedi cefnogi Canolfan Tenis Abertawe a’r gymuned ehangach dros gyfnod hirach byth.  Bu’n aelod o bob pwyllgor, gan gynnwys pwyllgorau Bwrdd Tenis Cymru, De Cymru a’r Cwpan Sirol.  Cydnabyddir bod ganddi arbenigedd heb ei ail, ac mae pobl Abertawe a’r byd tenis yng Nghymru’n gyffredinol yn ddyledus iddi am ei holl waith caled.

Gwobr Cyflawniad Aruthrol: Shain Lewis

Cafodd Shain flwyddyn anhygoel.  Cynrychiolodd Prydain Fawr yng Ngemau Olympaidd Arbennig yr Haf yn Athen yng Ngwlad Groeg, a daeth oddi yno gyda dwy fedal efydd, un yng nghystadleuaeth y senglau a’r llall yn y dyblau.  Hefyd, rhoddodd araith yn ystod y seremoni cloi.

Mae gwybodaeth ar bob agwedd o denis yng Nghymru ar gael gan Tenis Cymru ar 029 20 463335 neu www.tenniswales.org.uk