Mae bachgen chwe blwydd oed wedi cael ei ruthro i’r ysbyty ar ôl damwain ar reid ffair yng ngogledd Swydd Efrog.

Y gred ydi i’r bachgen syrthio o rolercoster yn Lightwater Valley ger Ripon, ond nad ydi ei anafiadau yn bygwth ei fywyd.

Mae tystion wedi bod yn sôn ar y gwefannau cymdeithasol am weld y bachgen yn syrthio tua 15 troedfedd o ben y reid ‘Twister’, ac ambell un yn dweud iddyn nhw glywed “sgrechiadau mawr” cyn gweld ei gorff ar y llawr.

Mae pobol eraill oedd yn y ffair ar y pryd yn dweud iddyn nhw alw ar oruchwyliwr y reid i ddod â’r rolercoster i stop wedi’r digwyddiad.