Mae dyn yn ei ugeiniau wedi marw yn dilyn digwyddiad yn ardal Castell Caeredin.

Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw i Johnston Terrace yn y ddinas tua 1.50yp heddiw (dydd Iau, Mai 30), ond erbyn iddyn nhw gyrraedd roedd y dyn eisoes wedi marw.

Mae Heddlu’r Albwn yn dweud fod dyn arall wedi’i arestio mewn cysylltiad â’r digwyddiad.

Mae ffyrdd cyfagos wedi’u cau tra bod ymchwiliad yn mynd rhagddo.