Mae J K Rowling yn cyhoeddi pedwar llyfr newydd am y dewin bach, Harry Potter, y mis nesaf, yn y gobaith y bydd darllenwyr yn dysgu mwy am “hanes cyfoethog” hud a lledrith.

Fe fydd yr awdures yn cyhoeddi’r elyfrau ar wefan Pottermore, ar Fehefin 27.

Y gred ydi fod y straeon wedi’u seilio ar y math o wersi y byddai Harry Potter a’i ffrindiau wedi’u cael yn ysgol Hogwart’s School of Witchcraft and Wizardry, yn cynnwys seryddiaeth, gofalu am greaduriaid hud, swynion a’r ochr dywyll.

Mae gwefan Pottermore yn addo y bydd y llyfrau yn “mynd â chi’n ôl mewn amser i ddysgu am draddodiad a hanes hud a lledrith” – sef yr hyn sydd wrth wraidd stori Harry Potter ers y dechrau.