Mae lladron arfog ar gefn beiciau moped wedi targedu siop watsys drud yn ardal y West End yn Llundain.

Mae fideos sydd wedi cael eu rhannu ar y cyfryngau cymdeithasol yn dangos y criw yn chwalu ffenest siop The Hour House yn Duke Street, ger Oxford Street.

Mae Heddlu’r Met wedi cadarnhau iddyn nhw gael eu galw tua 10.30yb heddiw (dydd Mawrth, Mai 28).

Mewn cyfres o negeseuon trydar, maen nhw’n dweud fod “nifer o ddynion” yn cario arfau wedi gyrru at yr adeilad cyn malu gwydr y ffenestr, dwyn nwyddau, cyn dianc ar gefn y beiciau modur.

Mae dyn yn ei 30au yn derbyn triniaeth am anaf i’w lygad yn dilyn y digwyddiad.

Does neb wedi cael ei arestio.