Mae cyn-sbin ddoctor Tony Blair, Alastair Campbell, wedi cael ei wahardd o’r Blaid LAfur, wedi iddo gyfaddef pleidleisio tros y Democratiaid Rhyddfrydol yn etholiadau Ewrop.

Mae Alastair Campbell, a ymgyrchodd yn galed tros ail refferendwm ar fater Brexit, yn dweud ei fod “yn drist ac wedi’i siomi” gan y penderfyniad.

Mae llefarydd ar ran y Blaid Lafur yn dweud fod “cefnogi plaid neu ymgeisydd arall ar wahân i Lafur yn mynd yn groes i aelodaeth o’r blaid”.