Mae disgwyl i’r cwest i farwolaeth gwestai ar y sioe Jeremy Kyle agir heddiw.

Cafodd sioe ITV ei thynnu iddi ar yr awyr ar ôl marwolaeth Steve Dymond wythnos yn unig ar ôl iddo ymddangos ar y sioe.

Ar ôl cymryd prawf celwydd arni, cafodd Steve Dymond, 63, ei ddarganfod wedi marw yn ei gartref yn Portsmouth ar Fai 9.

Roedd o wedi methu’r prawf ac fe wahanodd ef a’i ddyweddi Jane Callaghan fel canlyniad.

Fe fydd y cwest yn cael ei chynnal yn Llys Crwner Portsmouth.

Roedd sioe Jeremy Kyle wedi bod ar sgriniau gwledydd Prydain yn rheolaidd yn ystod y dydd ers 2005 ond cafodd hi ei thynnu oddi ar yr awyr yn dilyn beirniadaeth gan Aelodau Seneddol a’r cyhoedd.