Wrth i’r haul dywynnu ym Mae Caerdydd heddiw (dydd Mawrth, Mai 21) mae’r gwaith o godi Eisteddfod yr Urdd Caerdydd 2019 i’w weld yn glir yn ei chyfanrwydd.
Dim ond pedwar diwrnod sydd i fynd nes mae’r bwrlwm yn dechrau ar Blass Roald Dahl o flaen Canolfan y Mileniwm.
O ddydd Sadwrn (Mai 25) fe fydd plant, rhieni, ysgolion, ffrindiau, cerddorion, beirdd a Chymry ifanc a hen o bob cwr o’r wlad yn dod i berfformio, i fwynhau ac i gymdeithasu ar ddoc y brifddinas.
Hwn yw’r pumed gwaith i Eisteddfod yr Urdd fentro i Gaerdydd.
Daeth y cyntaf yn 1965 gan nodi deng mlynedd i sefydlu Caerdydd yn brifddinas yn 1955.
Dychwelodd hi eto yn 1985, yn 2002, ac yna yn 2009.