Mae Heddlu Gogledd Swydd Efrog yn rhybuddio am beryglon y cyffur MDMA yn dilyn marwolaeth merch 15 oed.
Cawson nhw eu galw i faes parcio yn Northallerton am oddeutu 9.30 neithiwr (nos Sadwrn, Mai 12), yn dilyn adroddiadau bod merch yn anymwybodol.
Mae lle i gredu ei bod hi wedi cymryd y cyffur.
Cafodd ei chludo i’r ysbyty ym Middlesbrough, lle bu farw’n ddiweddarach.
Mae’r heddlu’n rhybuddio pobol i beidio â phrynu’r cyffur, ac i geisio cymorth meddygol os ydyn nhw wedi ei gymryd.
Maen nhw hefyd yn apelio am wybodaeth ynghylch marwolaeth y ferch.