Mae dyn wedi cael ei arestio mewn cysylltiad â diflaniad dynes o’r enw Emma Faulds sydd wedi bod ar goll ers 11 diwrnod.

Cafodd Emma Faulds, 39, ei gweld o gwmpas 9.10yh ar Ebrill 28 yn ardal Kilmarnock.

Dywed ei theulu eu bod yn poeni amdani ers dweud wrth yr heddlu ddydd Mawrth diwethaf (Ebrill 30) am ei diflaniad.

Ddoe (dydd Mercher, Mai 8) fe gyhoeddodd yr heddlu eu bod wedi arestio dyn, 39, mewn cysylltiad ä’r achos.