Fe fydd strategaeth i warchod cymunedau Cymru rhag troseddau difrifol trefnedig yn cael ei lansio yng Nghasnewydd heddiw (dydd Iau, Mai 9).
Mae’r strategaeth yn adeiladu ar y gwaith partneriaeth sydd eisoes wedi’i gyflawni gan yr awdurdodau heddlu, elusennau a llywodraeth Cymru a Phrydain.
Bydd Ben Wallace, Gweinidog Diogelwch Cenedlaethol a Throseddau Economaidd San Steffan, yn cynnal y digwyddiad sy’n tynnu sylw at fygythiad torcyfraith trefnedig a’r gwaith sydd wedi’i wneud i atal pobol rhag cael eu denu i dorri’r gyfraith.
Yn ôl ystadegau swyddogol, mae oddeutu 4,600 o grwpiau yn trefnu torcyfraith difrifol yng ngwledydd Prydain, lle caiff trais a bygythiadau eu defnyddio mewn cymunedau, gyda’r troseddau’n amrywio o gaethwasiaeth a symud pobol i gam-drin rhywiol.
Y cynllun yng Nghymru
Yng Nghymru, fe fydd cydlynwyr cymunedol yn cael eu cyflwyno mewn llefydd fel Casnewydd.
Byddan nhw’n cael eu hariannu gan y Swyddfa Gartref er mwyn cydweithio â chymunedau lle mae nifer fawr o droseddau.
Yn ystod y digwyddiad, mae disgwyl i Ben Wallace ddweud bod buddsoddi mewn prosiectau fel y cydlynwyr cymunedol yn “hanfodol”, a bod y cynllun peilot presennol yn “uchelgeisiol”.
Fel rhan o’r prosiect yng Nghasnewydd, fe fydd yr heddlu’n cydweithio ag ymddiriedolaeth leol a Taclo’r Tacle ar raglen i holl ysgolion uwchradd y ddinas. Mae 5,400 o ddisgyblion wedi cael bod yn rhan o’r prosiect hyd yn hyn.
Mae’r prosiect hefyd yn cydweithio â phlant a phobol ifanc sy’n wynebu’r risg o ddod yn rhan o dorcyfraith trefnedig.
Mae Jane Hutt, Dirprwy Weinidog a Phrif Chwip Llywodraeth Cymru, yn croesawu’r cynllun.
“Mae torcyfraith trefnedig yn faes cymhleth ac mae atal neu ymyrryd yn gynnar yn elfennau hanfodol wrth reoli’r bygythiad hwn mewn modd effeithiol,” meddai’r Prif Arolygydd Paul Davies o Heddlu Gwent.
“Mae cefnogi’r rhai mwyaf diniwed yn ein cymunedau – ein plant – ynghyd â sefydliadau sy’n bartneriaid yn rhan bwysig o’n gwaith ni.”