Mae Lee Waters, Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, wedi cyhoeddi cronfa o bron i £11m er mwyn gwella ffyrdd a diogelwch ar y ffyrdd yng Nghymru.

Bydd awdurdodau lleol ym mhob cwr o’r wlad yn derbyn yr arian fel rhan o gynllun Llywodraeth Cymru i sicrhau is-adeiledd er mwyn cael bywyd bywyd iach a gweithgar.

Bydd prosiect yn ardal Coity ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn derbyn £5,028,595 er mwyn ailwampio ac ehangu’r ffyrdd, gosod llwybr a mannau croesi i ddefnyddwyr trenau’r ardal.

Bydd y gwaith o atgyweirio’r A4080 o Lanfairpwll i Aberffraw ym Môn a pharthau 20 milltir yr awr yng Nghastell-nedd Port Talbot, Sir Benfro ac Abertawe’n derbyn cyfran o £3,969,743 o arian cyfalaf.

Teithio llesol

Bydd mwy nag 80% o’r arian yn cael ei ddefnyddio ar gyfer cynlluniau a hyfforddiant sy’n hybu ffordd lesol o deithio, gan gynnwys beicio a cherdded.

“Mae prosiectau fel gwersi beicio yn werthfawr os ydym am annog y genhedlaeth nesaf i weld teithio llesol fel y dewis naturiol ar gyfer teithiau lleol,” meddai Lee Waters.

“Bydd yr arian sydd wedi’i roi i brosiectau cyfalaf yn gwella seilwaith, i wneud teithiau llesol yn fwy diogel i feicwyr, cerddwyr a gyrwyr fel ei gilydd.”