Mae Gorsedd y Beirdd wedi cyhoeddi pwy fydd yn cael eu hanrhydeddu yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy eleni.
Ymhlith yr enwau adnabyddus maer ddeuawd canu gwlad o Ben Llŷn, John ac Alun; y digrifwr, Tudur Owen, a’r cerddor a thalyrnwr, Geraint Løvgreen.
Bydd y delynores ryngwladol, Catrin Finch, hefyd yn derbyn coban, ynghyd â’r darlledwyr, Gari Wyn ac Aled Samuel.
Er bod cyn-Brif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol, Elfed Roberts, yn cael ei anrhydeddu eleni, ni fydd yn derbyn ei Wisg Las tan brifwyl Ceredigion yn 2020.
Beth yw’r lliwiau?
Mae’r Wisg Werdd yn cael ei rhoi i unigolion am gyfraniad i faes celfyddydau, am ennill un o brif wobrau Eisteddfod yr Urdd, neu am fod â gradd yn y Gymraeg, Cerddoriaeth neu bwnc drwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae modd derbyn y Wisg Las am gyfraniad amlwg ym myd y gyfraith, gwyddoniaeth, chwaraeon, newyddiaduriaeth, y cyfryngau neu wasanaeth ar lefel lleol neu genedlaethol.
Dim ond enillwyr prif wobrau’r Eisteddfod Genedlaethol sy’n cael eu hurddo i’r Wisg Wen.
Bydd yr holl unigolion yn cael eu hurddo’n Urdd Derwydd yn ystod wythnos y brifwyl rhwng Awst 3 a 10.