Mae tri dyn wedi dioddef anafiadau a allai beryglu eu bywydau ar ôl disgyn 70 troedfedd o ben creigiau yng Nghernyw.
Galwyd am gymorth y gwasanaethau brys i Barc Trammel Cove, ger Porthleven gan un o’r dynion ychydig wedi hanner nos y bore yma.
Dywedodd wrth Wylwyr y Glannau ei fod o a dau arall wedi disgyn i lawr o’r graig a’u bod angen cymorth.
Cafodd un dyn 18 oed a dau ddyn 19 oed eu cludo mewn hofrenydd i Ysbyty Derriford yn Plymouth.
Mae’r tri wedi dioddef anafiadau difrifol a allai beryglu eu bywydau.