Mae Julian Assange, sylfaenydd gwefan WikiLeaks, yn wynebu cyfnod o garchar am dorri amodau ei fechnïaeth.

Bydd yn cael ei ddedfrydu yn Llys y Goron Southwark heddiw.

Cafwyd e’n euog yn Llys Ynadon Westminster o dorri amodau ei fechnïaeth, ar ôl cael ei arestio yn llysgenhadaeth Ecwador yn Llundain fis diwethaf.

Cafodd ei gyhuddo yn 2010 o droseddau rhyw yn Sweden, ac fe aeth i lysgenhadaeth Ecwador am loches yn 2012.

Yn y gwrandawiad ar Ebrill 11, cafodd ei gadw yn y ddalfa, ac mae disgwyl iddo gael ei ddedfrydu i flwyddyn dan glo.