Wrth drafod ei bryder am sut y gall cytundeb Brexit caled wthio’r Alban tuag at annibyniaeth, mae Tony Blair yn cynnig uno cynghreiriau pêl-droed Cymru, Lloegr a’r Alban fel ffordd o gadw gwledydd Prydain yn unedig.

Dywed cyn Prif Weinidog Llafur bod risg y bydd gwledydd Prydain yn rhwygo yn dibynnu ar beth yw canlyniad Brexit mewn cyfweliad gyda Sefydliad i’r Llywodraeth.

Yn ôl yntau, ni fyddai annibyniaeth i’r Alban yn llwyddo “os nad yw Brexit yn gwthio ni mewn i safle sy’n cael annibyniaeth i’r Alban dros y llinell gyda Brexit caled, sydd yn bosib.”

Ar ôl cael ei holi ynglŷn â sut y byddai’n cadw gwledydd Prydain gyda’i gilydd awgryma Tony Blair uno cynghreiriau pêl-droed Lloegr, Cymru a’r Alban fel un datrysiad.

“Llawer yn gyffredin”

“Roedd pobol yn arfer meddwl ei fod braidd yn ddibwys pan oeddwn i’n arfer dweud y dylem roi’r cynghreiriau pêl-droed at ei gilydd…” meddai Tony Blair.

“Mae angen i chi ddod o hyd i ffyrdd y mae pobol yn sylweddoli bod ganddyn nhw lawer yn gyffredin, yn ogystal â gofod ar gyfer amrywiaeth y Deyrnas Unedig. Roeddwn i’n gwneud llawer mwy o hynny.

“Mae angen i ni fod yn meddwl, mae angen i ni fod yn fwy gweithgar ac angerddol yn ein hamddiffyniad o’r Undeb.

“Efallai mai un peth da allan o hyn, unwaith y byddwn yn cael gwared â Brexit, yw bod gwir angen i ni feddwl am le gwledydd Prydain yn y byd a pham ei bod yn synhwyrol i wledydd fod yma. ”