Mae aelodau o’r grŵp ymgyrchu Extinction Rebellion yn dweud “bod rhaid parhau” i brotestio ar ôl cyfarfod siomedig gydag Ysgrifennydd yr Amgylchedd, Michael Gove.

Aeth yr ymgyrchwyr i drafod gyda Michael Gove a gweinidogion o adrannau eraill, yn San Steffan heddiw (dydd Mawrth, Ebrill 30) gyda galwadau ar i Lywodraeth Prydain newid ei hagwedd tuag at yr hinsawdd.

Ond er y trafodaethau, maen nhw wedi eu gadael yn rhwystredig gyda Michael Gove.

“Roeddwn yn disgwyl ychydig mwy,” meddai Farhana Yamin, 54, cyfreithiwr newid hinsawdd amlwg a ludiodd ei hun i bencadlys Shell yn Llundain yr wythnos ddiwethaf.

“Yn bendant rwy’n credu y gallai fod wedi cymryd y cam i ddangos arweinyddiaeth a oedd yn angenrheidiol i’r genedl ddod at ei gilydd.”

Daw hyn ar ôl i arweinydd y Blaid Lafur, Jeremy Corbyn, gyhoeddi y bydd y blaid yn gorfodi pleidlais yn Nhŷ’r Cyffredin i ddatgan a ddylid datgan argyfwng amgylcheddol a hinsawdd.