Mae arweinydd y Blaid Lafur, Jeremy Corbyn, yn galw ar Aelodau Seneddol i dderbyn eu “dyletswydd hanesyddol” a datgan argyfwng hinsawdd.

“Does dim amser i’w wastraffu,” yn ôl Jeremy Corbyn wrth iddo alw ar ail-strwythuro’r economi er mwyn cefnogi cyfiawnder amgylcheddol a cymdeithasol.

Mae Aelodau Seneddol ar fin trafod cynnig Llafur i San Steffan ddatgan yr argyfwng ac i addo gweithredu “gyda brys” i fynd i’r afael â’r cynnydd mewn tymheredd a cholled bywyd gwyllt.

Daw’r galw yn dilyn y protestiadau diweddar yr Extinction Rebellion yn erbyn y diffyg gweithredu gan Lywodraeth gwledydd Prydain.

Cafodd dros 1,000 o brotestwyr eu harestio yn ystod yr ymgyrch.

“Dyletswydd”

Mae’r cynnig gan Lafur yn gofyn i’r Llywodraeth osod targed newydd er mwyn sicrhau bod graddfa allyriadau ar ddim neu lau cyn 2050.

Ar ben hynny, mae galw am fwy o ynni adnewyddadwy, technoleg garbon isel a swyddi gwyrdd, a chyflwyno mesurau brys i adfer natur a thorri gwastraff.

“Rydym yn byw mewn argyfwng hinsawdd a fydd yn troi’n beryglus allan o reolaeth oni bai ein bod yn cymryd camau cyflym a dramatig nawr,” meddai Jeremy Corbyn.

“Drwy ddatgan argyfwng yn yr hinsawdd, gallwn danio gweithredoedd gan Seneddau a Llywodraethau ledled y byd.

“Mae’n gyfle na fydd ar gael i genedlaethau sydd i ddod. Ein dyletswydd hanesyddol ni yw ei gymryd.”