Mae pedwar dyn, ynghyd â bachgen yn ei arddegau, wedi’u carcharu am ladd bachgen 17 oed yn Ipswich y llynedd.

Fe gafodd Tavis Spencer-Aitkens, 17, ei drywanu bymtheg o weithiau ychydig lathenni o’i gartref ar Fehefin 2, 2018.

Mae pedwar o bobol wedi’u cael yn euog o’i lofruddiaeth, a phumed yn euog o’i ddynladdiad. Mae’r pedwar sy’n euog o lofruddiaeth, bob un, wedi’u dedfrydu i oes o garchar heddiw (dydd Mawrth, Ebrill 30).

MaeAristote Yenge, 23, i dreulio beth bynnag 25 mlynedd dan glo; mae Adebayo Amusa, 20, i aros yng ngharchar am o leia’ 23 mlynedd;  ac Isaac Calver, 19, a Kyreis Davies, 17,  i dreulio 21 mlynedd i mewn.

Mae Callum Plaats, 23, wedi’i gael yn ddieuog o lofruddiaeth, ond yn euog o ddynladdiad, ac i dreulio 14 mlynedd yn y jêl.