Mae’r comedïwr a’r seren deledu, Volodymyr Zelenskiy, wedi’i gadarnhau yn arlywydd nesa’r Wcrain, wedi iddo ennill 73% o’r bleidlais mewn etholiad.
Mae wedi llwyddo i guro’r arlywydd presennol, Petro Poroshenko.
Mae’r digrifwr wedi bod yn llafar iawn ei feirniadaeth o’r awdurdodau am lusgo’u traed cyn cyhoeddi canlyniad y pôl.
Os y caiff Volodymyr Zelenskiy dyngu llw cyn Mai 27, yna mae ganddo’r hawl i gynnal etholiad buan yn senedd ei wlad er mwyn ffurfio cynulliad newydd, Ar hyn o bryd, mae’r sefydliad yn llawn o gydweithwyr yr arlywydd.
Mae gan y senedd fis cyfan nawr i bennu dyddiad ordeinio Volodymyr Zelenskiy yn arlywydd.