Mae Heddlu Gogledd Cymru yn apelio am wybodaeth yn dilyn pedwar achos o ddinoethi anweddus yn Llandudno.

Digwyddodd y digwyddiadau mewn lleoliadau yn y dref ar gyfnodau gwahanol o’r dydd yn ystod y misoedd diwethaf.

Dywed yr heddlu fod pob digwyddiad wedi cynnwys dyn yn dinoethi ei hun o flaen menywod a oedd yn cerdded yn y dref.

“Credwn fod y digwyddiadau yn gysylltiedig â’i gilydd ac rydym yn gofyn i aelodau o’r cyhoedd a welodd y dyn, a oedd o bosib yn reidio beic ac yn ymddwyn mewn modd amheus, i gysylltu â ni,” meddai Ditectif Cwnstabl Helen Evans.

“Mae swyddogion ar batrôl yn yr ardal nawr er mwyn tawelu meddwl y cyhoedd.”