Mae ymchwil newydd yn awgrymu nad yw plant sydd yn yfed diodydd melys llawn siwgwr yn angenrheidiol yn dewach na phlant sy’n yfed llai ohonyn nhw.
Yn ôl yr ymchwil gan Brifysgol Nottingham sy’n cael ei gyflwyno yng Nghyngres Ewrop ar Ordewdra, nid oes cysylltiad uniongyrchol rhwng yfed diodydd melys a lefelau uwch o egni mewn plant.
Does dim gwahaniaeth mawr chwaith ym mhwysau cyrff plant sydd yn yfed diodydd melys a’r rheiny sydd ddim.
Mae’r ymchwil yn awgrymu efallai nad yw’r dreth siwgwr y “modd mwyaf effeithiol” o daclo gordewdra ymhlith plant.
Canlyniadau
Mae’r data wedi’i seilio ar 1,300 o blant yng ngwledydd Prydain rhwng 4 a 10 oed rhwng 2008 a 2016, gan gynnwys dyddiadur pedwar diwrnod o’u deiet.
Yn ystod y cyfnod hwn, roedd 61% o’r plant wedi yfed o leiaf un ddiod felys, ond doedd 78% o’r grŵp yma heb fynd dros eu cyfanswm dyddiol argymelledig.
Nid oedd unrhyw wahaniaethau sylweddol ym mhwyso corff y rhai oedd yn yfed a’r rhai nad oeddent yn yfed, meddai’r ymchwilwyr.
Yn gyffredinol, roedd 78% o’r plant yn bwyta mwy na’r swm dyddiol argymelledig o siwgrau ychwanegol, gan gynnwys yr hyn a geir mewn sudd ffrwythau a melysion.
Roedd y ffigur hwn yn 68% ymhlith yfwyr diodydd melys.