Mae undeb gweithwyr siopau, USDAW, yn dweud bod y gweithiwr siop arferol yng ngwledydd Prydain yn cael ei gam-drin ar lafar neu yn gorfforol 21 gwaith y flwyddyn, ar gyfartaledd.

Yn 2018, cafodd 64% eu cam-drin ar lafar, 40% eu bygwth, a 288 eu hymosod arnyn nhw yn ddyddiol.

Mae USDAW yn dweud fod arolwg ‘Freedom from Fear’ yn adlewyrchu’r angen i Lywodraeth gwledydd Prydain i gymryd camai i helpu cyflogwyr i amddiffyn gweithwyr.

Yn ddiweddar, roedd y Llywodraeth wedi gwneud “galwad am dystiolaeth” yn dilyn cwynion gan yr undeb.

Yn ôl USDAW, mae’r arolwg yma’n dangos maint y broblem gan brofi’r angen am fwy o gefnogaeth i weithwyr.