Mae’r actor, Bradley Welsh, wedi’i saethu’n farw ar un o strydoedd Caeredin.

Roedd wedi ymddangos yn y ffilm Trainspotting 2, ynghyd â phennod o Deadliest Men, ac fe gafodd ei saethu yn ei ben yn Chester Street neithiwr (nos Fercher, Ebrill 17).

Fe gafodd yr heddlu eu galw tua 8yh at ddyn gydag anafiadau difrifol. Bu Bradley Welsh farw ar y stryd, ac mae’r heddlu yn trin y farwolaeth fel un amheus.

Roedd Bradley Welsh yn 42 oed, ac roedd wedi actio ochr yn ochr ag Ewan McGregor, Ewen Bremner, Jonny Lee Miller a Robert Carlyle yn y ffilm Trainspotting, yn rhan yr arweinydd giang, Mr Doyle.