Mae cryn dipyn o ddiddordeb yng nghrysau-T ‘Cofiwch Dryweryn’, yn ôl dau o gynhyrchwyr amlyca’r iaith Gymraeg.
Mae cwmnïau Shwl Di Mwl a Cowbois wrthi’n ymateb i archebion gan siopau, yn dilyn difrodi’r arwydd hanesyddol yn Llanrhystud, ac wrth i arwyddion newydd ymddangos ar adeiladau ym mhob rhan o’r wlad.
Awen Teifi yn Aberteifi yw’r siop ddiweddaraf i archebu’r crysau T, ac maen nhw’n dweud bod tipyn o ddiddordeb ynddyn nhw ar ôl i Shwl Di Mwl eu cynhyrchu nhw.
“R’yn ni wedi gwerthu ryw bedwar hyd yn hyn bore ’ma, ac mae tipyn o stoc gyda ni,” meddai’r siop wrth golwg360.
“Mae rhai wedi cael eu rhoi i’r naill ochr achos bod pobol yn ffaelu dod heddi i’w casglu nhw.
“Maen nhw’n eu casglu nhw fory a dydd Gwener.”
‘Tipyn o ddiddordeb’
Yn ôl Shwl Di Mwl, mae “pawb ar y bandwagon” yn dilyn yr helynt dros yr wythnosau diwethaf.
“Mae’r bandwagon yn jwmpo!” meddai Shwl Di Mwl.
“Mae pawb yn mynd arno fe nawr.”
Siop Tŷ Tawe yn Abertawe yw’r siop ddiweddaraf i’w harchebu, ar ôl i’r slogan ymddangos ar New Cut Road, un o brif heolydd dwyrain y ddinas.
“Mae bwrlwm yn y ddinas ar ôl i’r slogan ymddangos yma dros y dyddiau diwethaf, a llun Catrin Newman, un o drigolion Abertawe a chyn-aelod o staff y siop, yn cael cryn sylw ar Twitter,” meddai llefarydd ar ran Menter Iaith Abertawe.
“Mae’r llun wedi cael ei ail-drydar tua chant o weithiau, a 500 wedi’i hoffi, ac mae’n braf gweld cryn sylw i’r Gymraeg a digwyddiad mor hanesyddol yn hanes Cymru yn cael ei nodi yma yn Abertawe.
“Rydym yn disgwyl tipyn o ddiddordeb yn y crysau T wrth iddyn nhw gyrraedd Siop Tŷ Tawe ben bore fory.”