Mae dyn 18 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddio dyn 48 oed yn dilyn ffrwgwd y tu allan i glwb nos yn Reading.

Cwympodd y dyn i’r llawr ar ôl cael ei daro am oddeutu 11.30 neithiwr (nos Wener, Ebrill 12).

Cafodd ei gludo i’r ysbyty, lle bu farw’n ddiweddarach.

Mae lle i gredu bod y ddau yn adnabod ei gilydd.

Mae’r dyn 18 oed yn y ddalfa, ac mae’r heddlu’n apelio am wybodaeth.