Mae perygl y gallai gweinidogion San Steffan gyflwyno mesurau sy’n sensro’r defnydd o’r cyfryngau cymdeithasol wrth gyflwyno Papur Gwyn ddydd Llun, yn ôl John Whittingdale, cyn-Ysgrifennydd Diwylliant Prydain.
Bydd y Papur Gwyn yn mynd i’r afael â materion bwlio ar-lein, pornograffi dial, troseddau casineb a mynediad i ddeunydd yn ymwneud â hunanladdiad a brawychiaeth.
Mae’r mesurau a allai gael eu cynnwys mewn deddfwriaeth newydd wedi cael eu croesawu ar y cyfan, ond mae John Whittingdale yn rhybuddio y gallai sensro arwain at gyfiawnhau sensro annheg mewn gwledydd eraill.
“Gyda’u dyletswydd o ofal, mae gweinidogion sy’n gweithredu er gwell am weld yr un cyfreithiau’n bodoli ar-lein ar oddi ar y we – ond maen nhw mewn perygl o lusgo dinasyddion Prydeinig i mewn i gyfundrefn sensro Draconaidd serch hynny,” meddai yn y Mail on Sunday.
Ond mae’n dweud ei fod yn cytuno y dylid cwtogi ar ddefnydd pedoffiliaid, troseddwyr a’r rhai sy’n hybu hunan-niweidio o’r cyfryngau cymdeithasol.
“Fodd bynnag, mae gwledydd fel Tsieina, Rwsia a Gogledd Corea… hefyd yn awyddus i gyflwyno sensro ar-lein, fel y maen nhw eisoes yn ei wneud o ran y cyfryngau traddodiadol,” meddai wedyn.
“Rhaid i’r rheoleiddiwr arfaethedig yn y DU beidio â rhoi esgus i’r gormeswyr honni eu bod nhw, yn syml, yn dilyn esiampl Prydain, lle cafodd hawliau sifil eu hymgorffori am y tro cyntaf yn y Magna Carta 800 o flynyddoedd yn ôl.”
Mae’n rhybuddio fod rhaid i reoleiddiwr fod yn annibynnol o’r llywodraeth, ac nid yn “fiwrocratiaid di-wyneb yn Whitehall”.
Gallai Ofcom ymgymryd â’r gwaith, yn ôl adroddiadau.