Fe fu farw un ceffyl yn ystod ras geffylau’r Grand National yn Aintree brynhawn ddoe.
Cwympodd Up For Review, ceffyl 10 oed oedd yn cael ei farchogaeth gan Willie Mullins, wrth y ffens gyntaf.
Cafodd y ceffyl ei weld mewn poen ac fe gafodd ei ddifa ar y cwrs, y tro cyntaf i geffyl gael ei ladd yn y ras ers 2012.
Y llynedd, cafodd 201 o geffylau eu lladd mewn rasys.
Cafodd dau eu lladd yn Aintree ddydd Gwener.
Mae ymgyrchwyr, gan gynnwys yr RSPCA, yn galw o’r newydd am ddod â rasio ceffylau i ben oherwydd creulondeb i anifeiliaid.