Mae “taith hir” teuluoedd y rhai a gafodd eu lladd yn nhrychineb Hillsborough yn parhau, yn ôl llefarydd ar eu rhan.

Bu farw 96 o gefnogwyr yn dilyn y trychineb yn Sheffield ar Ebrill 15, 1989.

Yn dilyn achos hir yn Llys y Goron Preston, cafwyd Graham Mackrell, cyn-Ysgrifennydd Clwb Pêl-droed Sheffield Wednesday yn euog heddiw (dydd Mercher, Ebrill 3) o dorri rheolau iechyd a diogelwch.

Ond methodd y rheithgor â dod i benderfyniad yn achos David Duckenfield, y prif blismon oedd yn gyfrifol am y trefniadau ar ddiwrnod y gêm gyn-derfynol yng Nghwpan FA Lloegr rhwng Lerpwl a Nottingham Forest.

Roedd yn wynebu 95 achos o ddynladdiad trwy esgeulustod – doedd dim modd ei erlyn am farwolaeth cefnogwr arall a fu farw yn 1993.

Ail brawf

Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron wedi cadarnhau eu bod nhw am wneud cais am ail brawf yn erbyn David Duckenfield, a hynny ar ôl achos cyntaf a gafodd ei gynnal dri degawd wedi’r trychineb.

Ac yn ôl Margaret Aspinall, a gollodd ei mab James yn y trychineb, mae “taith hir” y teuluoedd yn parhau.

“Yn anffodus, wnaeth y rheithgor ddim dod i benderfyniad ar Mr Duckenfield,” meddai ar ddiwedd yr achos.

“Dw i’n siŵr fod pobol yn deall fod rhaid i ni i gyd fod yn ofalus iawn, iawn ynghylch yr hyn rydyn ni’n ei ddweud.

“Rhaid i ni jyst aros i weld beth fydd yn digwydd.

“Hoffwn ddiolch i’r rheithgor am yr wythnosau gymeron nhw ynghylch eu trafodaethau, a hoffwn ddiolch i bawb am y gefnogaeth a gawsom dros y 30 o flynyddoedd diwethaf.

“Gobeithio y bydd y gefnogaeth honno’n parhau.

“Roedden ni oll yn gobeithio am gael cau pen y mwdwl rywsut heddiw, ond dydyn ni ddim. Mae taith hir o’n blaenau o hyd.”